Grŵp Llandrillo Menai – Gweithgynhyrchu Digidol Uwch a Digwyddiad Autodesk, Sgiliau Myfyrwyr Peirianneg

Mae Grŵp Llandrillo Menai, y coleg mwyaf yng Nghymru yn gweithio mewn partneriaeth ag Autodesk a Cadline i gyflwyno’r dechnoleg ddiweddaraf ar gyfer gweithgynhyrchu modern i gwmnïau lleol yn yr ardal.

Ymunwch â ni ar gyfer digwyddiad agored hwn yng Ngholeg Menai, Llangefni. Bydd cwmnïau sy’n mynychu yn elwa o’r addysgwyr sy’n cyflwyno sut maent yn cefnogi diwydiant lleol i addysgu a chefnogi eu gweithwyr peirianneg. Mae Coleg Menai wedi gwahodd Autodesk a Cadline i gyflwyno sut mae Autodesk yn cefnogi adrannau peirianneg o fewn addysg.

Bydd Cadline yn arddangos Fusion 360, ddefnyddir gan y myfyrwyr, darlithwyr, a chwmnïau masnachol ar gyfer dylunio cost effeithiol a gweithgynhyrchu uwch. Ymunwch â ni ar gyfer y digwyddiad rhwydweithio hwn i gwrdd â gweithwyr eraill o’r un maes ac i datblygu sgiliau peirianneg yng Ngogledd Cymru. Yn ddilyn gweithgaredd y bore a cinio bydd cyfle i weld cyfleusterau yr adran peirianneg ac i gwrdd â’u myfyrwyr sy’n cynnal digwyddiad sgiliau peirianneg ar yr un diwrnod. Cystadleuaeth sy’n gysylltiedig a cystadleuaeth byd-eang a grëwyd ar gyfer myfyrwyr peirianneg.

Dysgwch fwy am gystadleuaeth WorldSkills UK: https://services.cadline.co.uk/worldskills-uk/

COFRESTRWCH NAWR:  Dydd Iau Tachwedd 24ain – Coleg Menai Llangefni

 

Agenda:

Time Content
09:30 Cyrraedd a Choffi
10:00 Autodesk Dylunio Digidol a Chymorth Myfyrwyr i’r Diwydiant Dylunio a Gweithgynhyrchu gydag addysg – Charles Jones, Autodesk
10:30 Fusion 360 Arddangosiad Dylunio a Gweithgynhyrchu Uwch – Mat Hutton, Cadline
11:15 Egwyl Coffi
11:30 Dylunio cynhyrchiol a Gweithgynhyrchu Ychwanegion gan ddefnyddio Fusion 360 – Mat Hutton, Cadline
12:00 Cyflwyniad coleg ar Gefnogi cwmnïau gweithgynhyrchu yng Ngogledd Cymru ar gyfer Addysg a Sgiliau peirianneg – Mat Hutton, Cadline
12:30 Cinio – Rhwydweithio Holi ac Ateb
13:15 Taith o amgylch y Coleg, cyfleuster gweithgynhyrchu uwch, Cystadleuaeth Sgiliau ar y gweill
15:00 Cloi

 

Lleoliad:

Adran Peirianneg,
Coleg Menai Llangefni
Ffordd Penmynydd
Llangefni
LL77 7HY

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website. Learn More

Accept Cookies